Nyrs Coleg
Role Overview & Responsibilities
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Darparu gwasanaeth cynghori iechyd proffesiynol i’r myfyrywryr a darparu arweiniad a chyngor ar faterion iechyd myfyrwyr i’r staff perthnasol. Hyrwyddo Iechyd a Lles ar draws y Coleg.
- Rhan-amser a Amser Llawn (nodwch yn eich cais eich dewis o ran oriau rhan-amser neu amser llawn)
- Yn Ystod y Tymor (40 wythnos y flwyddyn)
- Parhaol
- £16.33 - £17.41 yr awr
- Campws Tycoch a Gorseinon
Cyfrifoldebau Allweddol:
- Cynllunio a darparu Rhaglen Hyrwyddo Iechyd misol, wedi’i deilwra i fynd i’r afael â materion iechyd perthnasol megis iechyd rhywiol, byw’n iach, ysmygu a.y.b
- Gweithio’n agos â staff y gyfadran, Rheolwr Profiad a Lles Dysgwyr a’r Cydlynydd Cymorth i Ddysgwyr er mwyn asesu anghenion meddygol a chymorth y myfyrwyr sydd ag anghenion dysgu, iechyd corfforol a meddyliol.
- Sicrhau bod pob trip yn cael ei fonitro ar gyfer cyflyrau meddygol a sicrhau bod arweinyddion y tripiau yn ymwybodol o sut i gefnogi’r cyflyrau, lle y bo angen gwneud hynny.
Amdanoch chi:
- Nyrs gofrestredig ar ran berthnasol o’r gofrestr.
- Profiad o weithio â phobl ifanc
- Gallu darganfod datrysiadau positif i broblemau.
Buddion:
- 6.29 weeks annual leave
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Parcio am ddim
- Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1.
Llawn Amser Cyfatebol Cyflog: £31,498 - £36,642 – Pro Rata: £16,626 - £19,341
Frequently Asked Questions
How do I apply for the Nyrs Coleg position at Gower College Swansea?
Click the “Apply for this Position” button on this page to submit your details directly to Gower College Swansea's recruitment pipeline without agency fees or intermediaries.
Is this role eligible for remote work or international relocation?
This position is based in Swansea, Wales with potential relocation and visa sponsorship considerations for qualified candidates.
Are there any fees to apply through Jobflixs?
No. Jobflixs is 100% free for all job applicants. We strictly prohibit recruitment fees, candidate registration fees, or placement charges.